Dyfed Chess Association 

Home | D.C.A. | League | Special pages | Grading List | Winter Butterfly | Welsh Games Archive| Links


CYMDEITHAS GWYDDBWYLL DYFED:  CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL                            

7.30 p.m. Nos Iau 28ain Mehefin 2007, Ffostrasol Inn, Ffostrasol[1]

 

AGENDA

1.     Ymddiheuriadau

2.     Cofnodion 2006 CCB

3.     Materion o'u canlyniad

4.     Adroddiad Cyngres Agored Gwyddbwyll Dyfed - 2007

5.     Cyngres Agored Gwyddbwyll Dyfed - 2008

6.     Adroddiad Cystadleuaeth Gaeedig Gwyddbwyll Dyfed - 2006

7.     Cystadleuaeth Gaeedig Gwyddbwyll Dyfed - 2007

8.     Cynigion gan Bwyllgor y Gymdeithas (gweler nodyn cefndirol amgaeedig)

8.1             Mannau Cyfarfod Hanner Ffordd

Gosodwch yn Rheolau’r Gynghrair:

“ 5A. Subject to rules 5B-5D below teams shall play each other twice on a home and away basis.

“ 5B. If the normal travelling time between one team’s home venue and the home venue of its opponent is at least one hour, the away team may require that the match be played at an intermediate location approximately halfway between the two venues.

“5C If the teams cannot agree to a suitable intermediate venue, the matter shall be resolved by the League Controller, whose decision shall be final.

“5D. The away team shall be responsible for hiring the venue and for supplying the necessary chess equipment.”

Cynnig gan y Pwyllgor:

“ Ar gyfer y blynyddoedd 2007/08 a 2008/09 tâl y Gymdeithas gostau llogi mannau cyfarfod hanner ffordd wedi’u trefnu yn unol â Rheolau’r Gynghrair 5B-5D, os derbyn Rheolwr y Gynghrair fod y costau yn rhesymol.’


Ildio hawl i ffioedd clybiau newydd

Cynigion amgen gan y pwyllgor: Ychwanegwch ar ddiwedd paragraff 4 yng nghyfansoddiad y Gymdeithas (‘Subscriptions’) naill ai

A: “ The Association shall waive the registration fee due it (excluding the part which is paid over to the Welsh Chess Union) in respect of players registered by a club newly elected into membership for the first two years of that club’s membership.”

neu

B: “ The Association shall waive the whole of the registration fee due to it in respect of players registered by a club newly elected into membership for the first year of that club’s membership. The fees due to the Welsh Chess Union in respect of such players shall be met from Association funds.”

8.3 Pencampwriaeth Dyfed i Dimau Amatur

Gosodwch yn Rheolau’r Gynghrair:

“14A The team with the highest number of game points, excluding all the results of its players with a grade in the current list of more than 1700, shall be declared Dyfed Amateur Team Champions, and shall hold the Dyfed Amateur Team Championship Trophy for one year.  For this purpose, all the results of players initially ungraded but allocated a grade of over 1700 under League rules 11 or 12E during the season shall also be excluded from teams’ scores.”

9.     Ethol clybiau newydd yn aelodau’r Gymdeithas

10. Adroddiadau’r Swyddogion

11. Cydnabyddiaeth  a Threuliau

12. Ethol Swyddogion (Llywydd, Cadeirydd, Trysorydd, Swyddog y Wasg, Rheolwr y Cynghrair, Swyddog Graddio, Ysgrifennydd, Capten a Threfnydd ar gyfer Pobl Ifainc)

13. Ethol Cynrychiolwyr i bwyllgorau UGC (Rhyngwladol, Gwyddbwyll yng Nghymru, Cynllunio a Datblygu, Cyfryngau, Pobl Ifainc a'r Bwrdd Rheoli)

14. Cyflwyno Gwobrau

15. Materion Eraill

16. Cyfarfod Nesaf

 

Howard Williams (Ysgrifennydd) - Ffôn 01239 682182



[1] Mae’r pentref tua 4 milltir i ogledd-ddwyrain o Castellnewydd Emlyn lle mae’r B4571 yn cyrraedd yr A486. Mae’r dafarn ei hun wrth y gyffordd.

 

 

Undeb Gwyddbwyll Dyfed: nodyn gan y Pwyllgor ar gyfer y CCB 28/6/07

Cefndir

Ar ddiwedd y tymor hwn mae Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed wedi cael ei lleihau i dri chlwb a phedwar tîm yn unig yn sgil chwalfa Penfro ac Abergwaun.  Nid oes gan ddau allan o’r tri chlwb ond o drwch blewyn ddigon o aelodau i gynnal tîm pedwar bwrdd (er i bedwar chwaraewr Caerfyrddin ennill y Gynghrair yn bendant).

Fel cynghreiriau eraill yng Nghymru a thu allan mae cwymp yn nifer clybiau a thimau Cynghrair Dyfed wedi digwydd yn araf deg ers tua 1990 ond mae Dyfed, a dalgylch cymharol fach sydd ganddi o ran poblogaeth, (dyweder 300,000), yn neilltuol o wan.  Heb dimau/clybiau ychwnegol y tebyg yw y bydd y Gynghrair yn dod i ben ymhen ychydig o flynyddoedd.

Er hynny, nid yw’r rhagolygon yn ddiobaith i gyd ac efallai, wrth farnu’n dra optimistaidd, y gallai cymaint â thri thîm newydd ymuno â’r gynghrair y tymor nesaf, sef Hwlffordd, Aberystwyth ac un sy’n cynrychioli clwb gwyddbwyll y rhyngrwyd, gwyddbwyll.com.

Diben y cynigion sydd ar agenda y CCB eleni yw gwneud y Gynghrair yn fwy atyniadol i dimau newydd (ac yn wir i’r timau presennol). 

Un nodwedd gadarnhaol yw bod gan Gymdeithas Gwyddbwyll Cymru gronfa sylweddol o arian wrth gefn a honno’n fwy, o dipyn, na’r maint y mae ei angen er mwyn cynnal ein gweithgareddau presennol.  Dylid defnyddio peth o’r arian i geisio achub y Gynghrair rhag ebargofiant.

Cynigion

Mannau Cyfarfod Hanner Ffordd

Ar hyn o bryd cynhelir gornestau naill ai yng nghartref un tîm neu yng nghartref y llall ar nosweithau yn ystod yr wythnos waith. Yn enwedig os ymuna Aberystwyth â’r Gynghrair, bydd y pellter rhwng y timau yn dalcen galed wrth geisio chwarae o dan y drefn hon.  Nid oes dim yn rheolau’r Gynghrair a etyl gornestau rhag gael eu chwarae ar benwythnosau ond mae hynny hefyd yn debyg o fod yn faen tramgwydd i lawer. Felly, byddai’r cynygion yn adran 8.1 yr agenda

·        yn newid rheolau’r Cynghraidd er mwn rhoi i’r tîm sy’n chwarae oddi cartref yr hawl i fynnu y cynhelir yr ornest  mewn man cyfarfod hanner ffordd os yw amser teithio’r tîm hwnnw’n fwy nag awr; ac

·        yn galluogi costau llogi ystafell yn sgil hynny i gael eu talu gan y Gymdeithas.

Er enghraifft, gallai Aberystwyth chwarae ei gornestau yn erbyn Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn yn Llambed, eu gornestau yn erbyn dau dîm Aberteifi yn Aberaeron a’r rheiny yn erbyn tîm o Hwlffordd yn y man cyfarfod a ddefnyddir ar gyfer gwyddbwyll eisoes yn Nhan-y-groes, bum milltir o ogledd i Aberteifi.

Ildio ffioedd clybiau newydd

Yn adran 8.2 yr agenda mae cynigion amgen gan y Pwyllgor er mwyn rhoi croeso i glybiau newydd trwy beidio â chasglu cyfran neu’r holl swm a fyddai’n ddyledus mewn cyfnod cychwynnol.

Byddai’r cynnig cyntaf yn ildio cyfran y ffî arferol a gedwir gan y Gymdeithas, sef £4 allan o £14 ar gyfer oedolion (£2 allan o £9 ar gyfer pobl ifainc) yn y ddwy flynedd gyntaf.  Â’r ail gynnig ymhellach trwy ildio’r holl swm er y gwneid hynny ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig.  Yn ogystal ag ildio’r £4, byddai’r Gymdeithas yn talu allan o’i chronfeydd cyffredinol y rhan o’r ffî sy’n ddyledus i Undeb Gwyddbwyll Cymru, sef £10.  Byddai hynny’n sicrhau y derbyniai aelodau’r clybiau newydd gopi o flwyddlyfyr yr Undeb, gradd gyhoeddedig a’r hawl i chwarae yng nghystadleuthau’r Undeb. 

Cystadleuaeth Newydd

Mae’r Gynghrair yn dioddef gan un broblem hirhoedlog.  Mae dau dîm o chwaraewyr uchel eu graddau wedi tra-arglwyddiaethu arni’n gyson.  Am hynny, nid oes gan timau eraill ond ychydig i anelu ato o ran eu safle yn y Gynghrair.  Am nad oes gan Dyfed bellach ddigon o dimau i gynnal mwy nag un adran yn y Gynghrair, mae 8.3 yn cynnig sefydlu ail gystadleuaeth (heb ragor o ornestau) y tu mewn i’r strwythur un-adran presennol.

Y tîm buddogol fyddai’r tîm a gipiai’r nifer mwyaf o bwyntiau yn ei gemau os hepgorir pob gêm a chwaraeir gan yr aelodau dros 1700 o ran graddau. Byddai’r tîm hwn yn mynd yn Bencampwr Amatur Timau Dyfed ac yn dal cwpan, y byddai’r Gymdeithas yn ei brynu, am flwyddyn.  Pe bodolai cystadleuaeth o’r fath yn 2004/05 a 2005/06 byddai’r ymryson rhwng Abergwaun A, Penfro, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi B wedi bod yn un agos iawn.

Mesurau eraill

Er y gall y cynigion hyn wella’r gystadleuaeth rhwng y clybiau mae angen ar y clybiau presennol gadw eu haelodau a denu rhai newydd. Ac mae angen clybiau newydd hefyd, os bydd gwyddbwyll drefnedig yn mynd i oroesi.

Mae’r Gymdeithas yn awyddus o hyd i gefnogi pobl leol frwdfrydig a geisia sefydlu clwb trwy:

·        roi benthyg arian i’r clwb i roi cychwyn arni; er mai ar gyfer prynu offer y gwnaethpwyd hynny yn y gorffennol, gellid rhoi cymorth tuag at logi ystafell neu hysbysebu ar y cychwyn;

gofyn i’w haelodau mwy profiadol roi cyngor, sgyrsiau, gwersi ac arddangosfeydd gemau ar y pryd i glybiau newydd eu sefydlu.

 

                                                           

                                                  Keith Downey (Carmarthen) accepting the 2006-7 League Trophy from Iolo Jones.